Llythyr at Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Mae GWCT Cymru wedi anfon llythyr ynglŷn a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy at Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig newydd Cymru yn dilyn ei ddyrchafiad i’r rôl hwn ym Mawrth 2024 fel rhan o Gabinet newydd y Prif Weinidog newydd Vaughan Gething.

Mae’r llythyr yn cynnwys manylion am brosiectau GWCT yng Nghymru a thu hwnt, a’r gwyddoniaeth tu ôl i’n gwaith a bod ‘GWCT yn hyrwyddo ffermwyr fel yr ateb, ac wedi ymchwilio a thystiolaethu mewn modd gwyddonol y dulliau ar gyfer adfer bywyd gwyllt heb effeithio'n ormodol ar arferion ffermio a heb effeithio ar broffidioldeb ffermydd.’

Rydym wedi gwahodd Huw Irranca-Davies i ymweld â ffermydd a’r gwaith sydd wedi eu gwneud arnynt i gynyddu bioamrywiaeth a darparu buddion amgylcheddol.

Rydym yn edrych ymlaen at gael ateb ganddo yn yr wythnosau nesaf.

DARLLENWCH YN LLYTHYR YN LLAWN YMA >