
Following a successful 2024-25 shooting season at Gwysaney Sporting Club Ltd the owner James Davies-Cooke has presented GWCT Cymru with an astounding donation of £10k raised at the Gwysaney Young Shots Day and the collection of sweepstakes throughout the season.
Gwysaney Sporting Club Ltd is a family run and owned high quality pheasant and partridge shoot. It is situated in the rolling hills of Flintshire only 14 miles from Chester.
The GWCT Gwysaney Young Shots Day was hosted on the 2 September 2024, with 8 budding young shots eager to experience a day in the hills under the expert guidance of the Gwysaney team. The attendees along with their families were greeted with bacon rolls on arrival at Gwysaney. The morning started off with 2 drives (including a challenging one in the mist!) and a pit stop for elevenses on the bbq. Pegs on the day were kindly donated/sponsored by some of our guns including David Sheldrake, Chris Smith, Josh Pritchard to name but a few. Many thanks again to all of them for their kind generosity.
Two more drives we led at the top of the valley in the afternoon, before heading back to the shoot room for a buffet of locally sourced dishes, including partridge and venison to finish off a fabulous day
Lee Oliver, GWCT Wales Director says “We are lucky to receive such a generous donation from James and the team at Gwysaney, diolch yn fawr iawn. The funds raised will go towards our continued conservation work in Wales, looking to reverse the decline in biodiversity. This highlights the good work shooting does for conservation.”
James presented the kind donation to Owen Williams GWCT Wales Chair at the British Shooting Show in Birmingham on 14th Feb 2025.
James Davies-Cooke, Gwysaney Shoot Owner said “We’re keen for any funds raised at Gwysaney events to feed back into the shooting community and the science lead by GWCT. To date we’ve hosted a number of events with GWCT, from Shoot walks to the Young shots days. We look forward to our next event in aid of GWCT Wales’s science led work in conservation.”
A warm welcome awaits all that visit or shoot at Gwysaney from James, along with his accommodating team.
Next GWCT event at Gwysaney: Young Shots Day 2025 1 September 2025 – BOOK NOW
The GWCT Shoot Sweepstake scheme is a simple but effective way of raising money during the shooting season to support the important work of the Game & Wildlife Conservation Trust. For more information, click here,
Welsh
Yn dilyn tymor saethu llwyddiannus 2024-25 yn ‘Gwysaney Sporting Club Ltd’ mae'r perchennog James Davies-Cooke wedi cyflwyno rhodd syfrdanol o £10k i GWCT Cymru a godwyd ar Ddiwrnod Saethu Ifanc a drwy gasgliadau swîp (sweepstakes) drwy gydol y tymor.
Rhedir Gwysaney Sports Club Ltd gan James a’i deulu ble maent yn cynnig y cyfle i saethu ffesantod a phetrIs. Fe'i lleolir ym mryniau Sir y Fflint dim ond 14 milltir o Gaer.
Cynhaliwyd Diwrnod Saethu i’r Ifanc ar 2 Medi 2024, gydag 8 saethwr ifanc addawol yn awyddus i brofi diwrnod yn y bryniau o dan arweiniad arbenigol tîm Gwysaney. Cafodd y mynychwyr ynghyd â'u teuluoedd eu cyfarch gyda rholiau bacwn wrth gyrraedd Gwysaney. Dechreuodd y bore gyda 2 leoliad saethu (gan gynnwys un heriol yn y niwl!) a saib am ychydig i’w fwyta ac yfed ganol bore. Rhoddwyd/ noddwyd pegiau ar y diwrnod yn garedig gan rai o'n gwŷr saethu arferol gan gynnwys David Sheldrake, Chris Smith, Josh Pritchard i enwi ond ychydig. Diolch yn fawr iawn unwaith eto i bawb am eu haelioni.
Bu iddynt ymweld â dau safle saethu arall ym mhen y dyffryn yn y prynhawn, cyn mynd yn ôl i'r ystafell saethu am fwffe o fwydydd lleol, gan gynnwys petrIs a chig carw i orffen diwrnod gwych
Dywedodd Lee Oliver, Cyfarwyddwr GWCT Cymru "Rydym yn ffodus i dderbyn rhodd mor hael gan James a'r tîm yng Ngwysaney, diolch yn fawr iawn. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at ein gwaith cadwraeth barhaus yng Nghymru, gan geisio gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae hyn yn amlygu'r gwaith da y mae saethu yn ei wneud ar gyfer cadwraeth."
Cyflwynodd James y rhodd garedig i Owen Williams Cadair GWCT Cymru yn Sioe Saethu Prydain ym Mirmingham ar 14 Chwefror 2025.
Dywedodd James Davies-Cooke, Perchennog Saethu Gwysaney: "Rydym yn awyddus i unrhyw arian a godir yn nigwyddiadau Gwysaney fwydo yn ôl i'r gymuned saethu a'r wyddoniaeth a gaiff ei arwain gan GWCT. Hyd yn hyn rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau gyda GWCT, o deithiau cerdded saethu i'r diwrnodau saethu i’r ifanc. Rydym yn edrych ymlaen at ein digwyddiad nesaf er budd gwaith gwyddonol GWCT Cymru ym maes cadwraeth."
Mae croeso cynnes i’w gael gan James â’i dim os yn ymweld neu'n saethu yng Ngwysaney.
Digwyddiad GWCT nesaf yng Ngwysaney: Diwrnod Saethu i’r Ifanc 2025, 1 Medi 2025 – ARCHEBWCH NAWR
Mae cynllun swîp (sweepstake) GWCT yn ffordd syml ond effeithiol o godi arian yn ystod y tymor saethu i gefnogi gwaith pwysig GWCT Cymru. Am ragor o wybodaeth: Shoot Sweepstake - Game and Wildlife Conservation Trust