14/2/2025

Ffermio and getting together to build bird boxes for our feathered farmland friends

BFBC Bird BoxesA group of around 60 farmers and families gathered for a special Big Farmland Bird Count social event at Adfa Village Hall in Powys, mid-Wales, in preparation the UK’s annual census of farmland birds.

Run by the GWCT and sponsored by the National Farmers’ Union (NFU), the BFBC is on for two weeks until Sunday 23 February.

Director for GWCT Cymru Lee Oliver spoke about the count and why it is important to take part, how it can help farmers understand what they have on their land and to establish a baseline for biodiversity. This can in turn inform decisions and plans for how they manage their farms to help birds and other wildlife thrive.

Guests also enjoyed a hog roast sponsored by the FUW, and then spent some time building bird boxes for blue tits. The children in the room got stuck in straight away, with some even building two boxes for their parents’ or grandparents’ farms.

The event on 30 January was organised for members of the Cefn Coch ATB group by John and Sarah Yeomans, who farm at Llwyn y Brain near Newtown and have been participating in the count since 2020.

Lee said: “It is really important to get the community involved if we want to help our farmland birds, many of which are in decline. Being able to do something practical and hands-on, like building a bird box, makes people feel that they can make a difference. 

“Last year, there were 64 counts in Wales. If every farmer who was in the room took part this year, we could double that figure. We want to show that farmers in Wales are making a difference to our farmland birds and by gathering this data, year after year, we can demonstrate that they are.”

The event was also filmed by the S4C Ffermio programme and presenter Alun Elidyr gave a very passionate and impromptu speech to all in the room about the importance of working together, both with politicians and wider public, to find solutions, avoid conflicts and show how farming is a positive and vital force for good for Wales and its people. It was very well received by all in the room.

BBC: Watch the Yeomans on Ffermio

BBC FfermioFfermio also filmed with the Yeomans earlier in the day at their 275-acre farm, where they keep sheep and cattle and are involved a range of biodiversity enhancing projects. Alun spoke to John and his son Joe about the BFBC and how they have identified 70 species of bird on their land, many of them red-listed.

Lee explained to viewers how the count involves you spending 30 minutes recording the bird species and numbers of each on your farm and surrounding land during a two-week window in winter. The results are the submitted to the GWCT online or by post.

Farmland birds have declined by 63% in the past 50 years. The key to reversing the trend is held by the people who look after 72% of the UK which is agricultural land. The BFBC encourages farmers, land and wildlife managers to spend 30 minutes recording the bird species and numbers of each on their farms and surrounding land during a two-week window in winter.

Welsh

Daeth grŵp o tua 60 o ffermwyr a theuluoedd ynghyd ar gyfer digwyddiad cymdeithasol arbennig Cyfrif Mawr Adar Ffermdir yn Neuadd Bentref Adfa ym Mhowys, canolbarth Cymru, i baratoi ar gyfer cyfrifiad blynyddol y DU o adar tir fferm. Mae Cyfrif Mawr Adar Ffermdir, sy'n cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gêm a Bywyd Gwyllt (GWCT) ac a noddir gan NFU Cymru, yn parhau am bythefnos tan ddydd Sul 23 Chwefror.

Siaradodd Cyfarwyddwr GWCT Cymru, Lee Oliver, am y cyfrif a pham ei bod yn bwysig cymryd rhan, sut y gall helpu ffermwyr i ddeall yr hyn sydd ganddynt ar eu tir a sefydlu gwaelodlin ar gyfer bioamrywiaeth. Gall hyn yn ei dro lywio penderfyniadau a chynlluniau ar gyfer sut maen nhw'n rheoli eu ffermydd i helpu adar a bywyd gwyllt eraill i ffynnu. Roedd y gwesteion hefyd yn mwynhau rhost mochyn a noddir gan Undeb Amaethwyr Cymru, ac yna treulio peth amser yn adeiladu blychau adar ar gyfer y titw tomos las. Aeth y plant yn yr ystafell yn syth ati, gyda rhai hyd yn oed yn adeiladu dau focs ar gyfer ffermydd eu rhieni neu neiniau a theidiau.

Trefnwyd y digwyddiad ar 30 Ionawr ar gyfer aelodau grŵp ATB Cefn Coch gan John a Sarah Yeomans, sy'n ffermio yn Llwyn y Brain ger Y Drenewydd ac sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cyfrif ers 2020.

Dywedodd Lee: "Mae'n bwysig iawn bod y gymuned yn cymryd rhan os ydym am helpu adar ffermdir, gan fod llawer ohonynt yn dirywio. Mae gallu gwneud rhywbeth ymarferol, fel adeiladu blwch adar, yn gwneud i bobl deimlo y gallant wneud gwahaniaeth.

"Y llynedd, cynhaliwyd 64 cyfri yng Nghymru. Pe bai pob ffermwr a oedd yn yr ystafell yn cymryd rhan eleni, gallem ddyblu'r ffigwr hwnnw. Rydym am ddangos bod ffermwyr yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth i adar ffermdir a thrwy gasglu'r data hwn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gallwn ddangos eu bod nhw."

Ffilmiwyd y digwyddiad hefyd gan raglen Ffermio S4C a rhoddodd y cyflwynydd Alun Elidyr araith fyrfyfyr ac angerddol iawn i bawb yn yr ystafell am bwysigrwydd cydweithio, gyda gwleidyddion a'r cyhoedd yn ehangach, i ddod o hyd i atebion, osgoi gwrthdaro a dangos sut mae ffermio yn rym cadarnhaol a hanfodol i Gymru a'i phobl. Cafwyd croeso cynnes iawn gan bawb yn yr ystafell.

Bu Ffermio hefyd yn ffilmio gyda'r Yeomans yn gynharach yn y dydd yn eu fferm 275 erw, lle maent yn cadw defaid a gwartheg ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau gwella bioamrywiaeth. Siaradodd Alun â John a'i fab Joe am Gyfrif Mawr Adar Ffermdir a sut maen nhw wedi adnabod 70 rhywogaeth o adar ar eu tir, llawer ohonyn nhw ar y rhestr goch.

FIDEO: Gwyliwch yr Yeomans ar Ffermio

Esboniodd Lee wrth y gwylwyr sut mae'r cyfrif yn golygu eich bod yn treulio 30 munud yn cofnodi rhywogaethau adar a niferoedd pob un ar eich fferm a'r tir o'i gwmpas yn ystod cyfnod o bythefnos yn y gaeaf. Yna cyflwynir y canlyniadau i'r GWCT ar-lein neu drwy'r post.

Mae adar ffermdir wedi gostwng 63% yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Mae'r allwedd i wrthdroi'r duedd yn cael ei chadw gan y bobl sy'n gofalu am 72% o'r DU sy'n dir amaethyddol. Mae Cyfrif Mawr Adar Ffermdir yn annog ffermwyr, rheolwyr tir a bywyd gwyllt i dreulio 30 munud yn cofnodi'r rhywogaethau adar a'r niferoedd o bob un ar eu ffermydd a'u tir cyfagos yn ystod cyfnod o bythefnos yn y gaeaf.

Comments

Make a comment