Bydd digwyddiad deuddydd i ddathlu cefn gwlad yn rhoi hwb mawr i economi gogledd Cymru a rhagwelir y bydd yn denu’r gwerthiant mwyaf erioed o £12 miliwn.
Dywed trefnwyr ail Ffair Gȇm Cymru sydd i’w chynnal ar benwythnos Medi 9 a 10 eu bod yn disgwyl dyblu presenoldeb ar ôl i ddigwyddiad agoriadol y llynedd ar Stad y Faenol ger Bangor ddenu 10,000 o ymwelwyr.
Mae’r sioe, a drefnir ar y cyd gyda'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt, yn cynnwys popeth o bysgota a bwyeill i gadwraeth, saethu a bywyd gwyllt, yn digwydd ar 500 erw godidog ystâd Y Faenol sy'n edrych dros y Fenai.
Dywedodd James Gower, prif weithredwr Stable Events sy’n trefnu Ffair Gȇm Cymru, yn ogystal â The Game Fair a’r Scottish Game Fair: “Roeddem wrth ein boddau gyda digwyddiad cyntaf y llynedd ond bydd llawer mwy o atyniadau ym mis Medi eleni.
“Rydym hefyd yn disgwyl denu hyd yn oed mwy o bobl, dwbl y 10,000 ddaeth draw y llynedd, a’r gobaith yw y bydd yn cael mwy fyth o effaith economaidd ar yr ardal.
“Er ein bod yn disgwyl llawer o ymwelwyr dydd bydd y Ffair Gȇm hefyd yn denu pobl sy’n dod am y penwythnos cyfan ac yn aros yn yr ardal a hefyd llawer o gwsmeriaid masnachol hefyd.
“Rydyn ni’n disgwyl i’r gwariant cyfartalog fod yn £600 oherwydd rydyn ni’n disgwyl nifer fawr o gwsmeriaid masnachol a stondinau ac fe ddylai hynny, ynghyd â’r atyniadau gwych sydd gennym yn y Ffair eleni fod yn atyniad mawr.
“Mae prynwyr o’r prif archfarchnadoedd yn ymwelwyr rheolaidd â’r digwyddiad a gall hyd yn oed cynhyrchwyr bach godi archebion mawr a meithrin cysylltiadau newydd.
“Mantais fasnachol mwy anarferol y llynedd oedd cael cynrychiolwyr prynwyr o’r Dwyrain Canol yn edrych i sefydlu perthynas gyda bridwyr hebogyddiaeth Cymru, gyda llawer o’r adar gorau’n cael eu masnachu i’w hanfon i ranbarthau Dubai a Qatar.”
Tanlinellwyd potensial y digwyddiad mewn astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor am effaith economaidd Ffair Gȇm gyntaf Cymru.
Ar wahân i'r busnes a wnaed yn y sioe, gwariodd ymwelwyr £300,000 yn yr ardal leol gyda mwy na 55 y cant ohonynt yn aros dros nos mewn gwestai lleol, meysydd gwersylla neu mewn carafanau.
Yn ogystal, gwariodd y trefnwyr bron i £130,000 gyda chontractwyr o Gymru er mwyn llwyfannu’r digwyddiad a oedd hefyd yn rhoi llwyfan i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.
Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Dr Linda Osti, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, a ddywedodd: “Gallai cynnwys y gymuned sy’n croesawu’r digwyddiad yn briodol ...ddatblygu ymhellach ymdeimlad o gydlyniant, perthyn a balchder.
“Gellir hyrwyddo’r diwylliant lleol a’r cynnyrch lleol ymhellach mewn ffordd ddilys er mwyn arddel traddodiadau lleol.”
Mae'r cyfan yn newyddion da dros ben i Jim Jones, prif weithredwr Twristiaeth Gogledd Cymru, sy'n credu bod Ffair Gȇm Cymru yn ychwanegiad i'w groesawu i atyniadau'r rhanbarth.
Dywedodd: “Roeddwn ar y teledu yn ddiweddar yn sôn am sut y gallwn ddenu ymwelwyr rhyngwladol i’r Gogledd ac un o’r pethau sy’n denu llawer yma yw cael digwyddiadau ar raddfa fawr fel Ffair Gȇm Cymru sy’n canolbwyntio ar feysydd penodol.
“Mae Ffair Gȇm Cymru yn ymwneud â gweithgareddau cefn gwlad ac mae’r economi gwledig mor bwysig i ni yma yng ngogledd Cymru gan y bydd yn denu pobl yma o bob rhan o’r DU ac yn rhyngwladol hefyd.
“Rydym newydd weld Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen sy’n rhoi hwb enfawr i economi gogledd Cymru.
“Mae digwyddiadau fel y rhain yn denu pobl sydd eisiau dod i aros am rai nosweithiau a gwario ychydig o arian tra maen nhw yma.
“Rydym 100 y cant y tu ôl i Ffair Gȇm Cymru a fydd yn denu’r gymuned ffermio leol ac sy’n cael ei rhedeg gan gwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf yn y maes ac sydd â hanes o gynhyrchu digwyddiadau tebyg o safon uchel ledled y DU.
“Bydd yn denu’r math o bobl rydyn ni eisiau eu gweld yng ngogledd Cymru. Maent yn gwario arian ac mae'n bosibl iawn y byddan nhw’n treulio dau neu dri diwrnod yma mewn llety lleol tra byddan nhw’n mwynhau'r digwyddiad cefn gwlad hwn.
“Erbyn hyn mae gennym nifer o ddigwyddiadau tebyg ac maen nhw’n dod â phobl rydyn ni eu hangen yn ddirfawr i mewn oherwydd mae hyn nid yn unig yn arddangos y gorau o gefn gwlad gogledd Cymru a’i thraddodiadau a’i ffordd o fyw ond mae hefyd yn gwario arian yma.
“Yn ogystal mae’n codi proffil gogledd Cymru ac mae hynny mor bwysig o ran dod â phobl yn ôl ac annog eraill i ymweld hefyd.”
Ategwyd hynny gan Jonathan Williams-Ellis, cadeirydd Atyniadau Eryri ac Eryri 360.
Dywedodd: “Yn bendant mae achos i’w wneud dros weld y Ffair Gȇm fel digwyddiad i ogledd Cymru gyfan gan ei fod yn digwydd y tu allan i wyliau’r ysgol ac yn ystod y tymor.
“Gellir ymestyn a chryfhau tymor twristiaeth gogledd Cymru drwy’r digwyddiad hwn ac ymysg y manteision a ddaw yn ei sgil yw y bydd pobl yn treulio nosweithiau ychwanegol yn aros yma boed mewn llety â gwasanaeth neu lety hunanarlwyo.
“Mae gwariant a ddaw yn ei sgil yn sylweddol, a bydd y cynnydd yn y gwariant yn digwydd ar draws yr ardal hefyd.
“Mae angen digwyddiad o’r maint hwn yn fawr iawn ar y Gogledd a chredaf ei fod yn ffitio’n berffaith i’r calendr ar ôl sioeau amaethyddol y Sioe Frenhinol, Sioeau Môn a Fflint a Dinbych.”